P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth
Cymru i ddatblygu cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr
Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru.
Mae angen mawr am linell reilffordd gyflym uniongyrchol o Faes Awyr
Caerdydd i orsaf drenau Caerdydd Canolog (ac i orllewin Cymru) fel
bod y gwasanaethau a’r ddarpariaeth briodol ar gael yn ein
Maes Awyr Cenedlaethol ar gyfer ymwelwyr cenedlaethol a
rhyngwladol. Mae gorsaf reilffordd yn y Rhws eisoes, sy’n
llai na milltir o’r maes awyr. Mae’n gyfle na ddylid ei
golli i estyn y llinell i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd fel y gall
teithwyr o bob rhan o’r byd neidio yn syth ar ôl glanio
ar drên sy’n mynd â nhw i brifddinas Cymru a thu
hwnt i hynny.
Prif ddeisebydd: Cymru Sofren
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 19 Mawrth 2013
Nifer y llofnodion: 39